Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.
Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Rho imi feddwl clir a chynhesa fy nghalon. Gwna fi’n sicr o’th ddibenion cariadus imi, a llefara â mi heddiw.
Mae Deuteronomium wedi’i lunio fel rhybuddion olaf Moses a’i orchmynion i’r bobl cyn ei farwolaeth. Yma, tuag at y dechrau, ceir y geiriau sydd wrth wraidd y ffydd Iddewig, a adroddir bob dydd gan Iddewon fel y Shema, gan ddechrau ‘Gwranda Israel! Yr Arglwydd ein Duw ydy’r unig Arglwydd’ (adnod 4). Mae’r adnod nesaf, ‘Rwyt i garu’r Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid ac â’th holl nerth’, yn cael ei ddyfynnu gan Iesu fel y ‘gorchymyn cyntaf a’r pwysica’ yn Mathew 22.38 – arwydd ei fod wedi ei drwytho’n llwyr yn yr Ysgrythurau Hebraeg.
Yma mae Moses yn dweud wrth y bobl i ‘beidio anghofio’ (adnod 6) y geiriau y mae ef yn eu dysgu iddyn nhw; maent i’w dysgu i’w plant a siarad amdanynt trwy gydol y dydd. Efallai y byddwn yn dweud yn iaith heddiw y dylai deddfau Duw gael eu ‘mewnoli’ – eu bod yn dod yn rhan o bwy ydym ni a sut yr ydym yn byw, trwy ymarfer, ailadrodd a myfyrio arnynt.
Ni ddylem danbrisio grym arferion da. Mae rhai elfennau o Gristnogaeth yn canolbwyntio ar sut mae credinwyr yn teimlo. Weithiau mae ein ffydd yn gwneud inni deimlo yn wych! Ond yr hyn sy’n ein cadw’n ffyddlon i gredu a byw ein ffydd gan amlaf yw disgyblaeth gweddi, mynd i’r eglwys a darllen y Beibl sy’n ffurfio’n meddyliau a’n cymeriadau. Fel y dywed un o gymeriadau Anthony Trollope, 'It's dogged as does it.'
Duw, helpa imi gadw dy eiriau yn fy nghalon. Gad iddynt ffurfio pob rhan o bwy ydw i, fel bod sut rydw i’n byw yn adlewyrchu pwy wyt ti.
Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl