Skip to main content

Deg person â’r gwahanglwyf: Luc 17.11–19 (2 Rhagfyr 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Luc 17.11–19

Yn y darn hwn mae Iesu’n mynd i mewn i bentref ac yn cyfarfod â deg o bobl â’r gwahanglwyf sy’n erfyn am drugaredd ac iachâd. Mae’n dweud wrthynt am fynd at yr offeiriad a ‘dangos eu hunain’. Un o gyfrifoldebau’r offeiriad oedd datgan a oedd rhywun wedi cael iachâd, ac os oedd wedi gwneud hynny, eu galluogi i ailymuno â chymdeithas eto. Roedd yn adeg a oedd yn newid bywyd.

Cafodd y deg eu hiachau, ond dim ond un ddaeth yn ôl i ddod o hyd i Grist i ddweud diolch. Rwy’n uniaethu â’r ymateb mae Iesu yn ei roi i’r dyn: ‘Rôn i'n meddwl mod i wedi iacháu deg o ddynion. Ble mae'r naw arall?’ A ydych erioed wedi gwneud rhywbeth i rywun a heb dderbyn gair o ddiolch? Ydyn ni wedi derbyn haelioni a heb ddangos gwerthfawrogiad? Roedd ymateb Iesu yn eithaf pryfoclyd. Gwnaeth i mi feddwl am fy agwedd tuag ato, yn enwedig ar adegau heriol.

Rwy’n grediniol bod diolchgarwch yn rhywbeth sy’n newid bywyd. Nid yw’n ymwneud â gwerthfawrogiad a chydnabyddiaeth yn unig. Diolchgarwch yw hanfod allweddol ysbryd hael. Pan fyddwn yn ddiolchgar rydym bob amser yn cael ein hatgoffa o’r hyn sydd gennym, heb ei ddiffinio gan yr hyn nad oes gennym ni. Mae diolchgarwch yn herio hawl ac yn galluogi bodlonrwydd. Dyna pam ei fod mor heriol!

Gweddi

Gweddi

Annwyl Dduw, helpa fi i ddwyn i gof rhywun rwy’n ddiolchgar ohonynt ac rwyf wedi anghofio amdanynt. Rho gyfle i mi ddangos fy ngwerthfawrogiad. Cynydda fy agwedd o werthfawrogiad. Amen.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Nigel Langford, Pennaeth Cysylltiadau Eglwysig Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible