Skip to main content

Dameg yr heuwr – neu’r pridd?: Marc 4.1–9 (Chwefror 1, 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Marc 4.1–9

Dameg yr Heuwr yw un o'r rhai mwyaf adnabyddus o holl straeon Iesu. Mae'n graffig a phwerus, gyda neges syml: bydd rhai pobl yn ymateb i air Duw ac ni fydd rhai, oherwydd eu bod yn galed, yn fas neu'n hawdd eu temtio. Mae'n egluro llawer ynghylch pam y gall cyhoeddi'r efengyl fod mor anodd a pham y gallwn weld cyn lleied o ffrwyth.

Mae hefyd yn codi nifer dda o gwestiynau. Pam mae rhai pobl yn 'bridd da' - ai eu magwraeth, neu rywbeth sydd wedi'i ymgorffori yn eu natur? Ar ôl darlleniad cyflym, gellir meddwl bod y ddameg yn eithaf llwm: mae pobl fel maen nhw, ac os ydynt yn digwydd bod y math o berson nad oes ganddynt ddiddordeb mewn crefydd, dyna hen dro.

Efallai bod pwynt ymarferol yma ynglŷn â lle y gallai Cristnogion gyfeirio eu hadnoddau efengylaidd - mae rhai gwarndawyr yn 'gynhesach' tuag at ffydd nag eraill. Ond rhaid i ni beidio ag anghofio pwynt ehangach: nad yw Duw byth yn rhoi’r gorau ar neb.

Un o'r delweddau cyntaf sydd gennym o Dduw yw ohono fel garddwr. Mae garddwyr yn trin y pridd i'w wneud yn fwy derbyniol i'r had ac yn fwy ffrwythlon. Gellir meddalu tir caled; gellir cyfoethogi pridd bas; gellir tynnu chwyn allan.

Rydym yn cael ein galw i fod yn gyd-weithwyr gyda Duw. Sut allwn ni weithio yn ein diwylliant ein hunain i baratoi'r tir ar gyfer ei air?

Gweddi

Gweddi

Duw, dangos i mi lle y gallaf helpu i leddfu baich rhywun neu gael gwared ar y rhesymau sy'n eu cadw oddi wrth Grist. Dangos imi sut y gallaf newid rhan fach o'r byd i'w gwneud yn fwy parod i dderbyn geiriau’r bywyd sy’n dod gennyt ti.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible