Skip to main content

Crist yn dangos i ni'n berffaith sut un ydy Duw: Hebreaid 1.1–4 (Ebrill 25, 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Hebreaid 1

Ysgrifennwyd Hebreaid gan Gristion Iddewig at gredinwyr Iddewig eraill i'w hannog mewn cyfnod o erledigaeth. Mae'n hynod gyfoethog yn ddiwinyddol, ac wedi'i wreiddio'n ddwfn yn yr Hen Destament. Mae'r adnodau agoriadol hyn yn sôn am oruchafiaeth lwyr Crist, sy'n ‘Mae holl ysblander Duw yn disgleirio ohono' (adnod 3).

Rydym mor gyfarwydd â'r syniad o'r ymgnawdoliad fel ein bod ni'n ei gymryd yn ganiataol. Os ydym wir yn meddwl amdano, mae'n honiad rhyfeddol - ein bod ni'n edrych ar Dduw wrth edrych ar Iesu’r dyn. Pan rydym eisiau gwybod sut un yw Duw, rydym yn mynd at eiriau, gweithredoedd a chymeriad Iesu.

Os rhywbeth, mae hyn hyd yn oed yn fwy trawiadol pan feddyliwn am yr hyn a ddigwyddodd i Iesu - iddo gael ei ddirmygu, ei wrthod a'i groeshoelio, gan farw mewn dioddefaint mawr. Yn yr hen fyd, nid oedd y pethau hyn yn mynd gyda'r syniad o Dduw hollalluog a greodd y bydysawd. Ond mae ein disgyblaeth Gristnogol wedi ei seilio o wybod bod Duw, yn Iesu, wedi dod i'w fyd i'w achub trwy ddioddefaint. Fel y dywedodd cyn-Esgob Durham, David Jenkins: 'Mae Duw fel y mae yn Iesu, felly mae gobaith'.

Gweddi

Gweddi

Duw, llanw fi â pharchedig ofn eto dy fod wedi dangos dy ogoniant yn berffaith trwy fywyd, marwolaeth ac atgyfodiad yr Arglwydd Iesu Grist. Dysga i mi beth mae'n ei olygu i fyw iddo.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible