Skip to main content

Cofio’r ARGLWYDD: Deuteronomium 8.1–11 (3 Mehefin 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Rho imi feddwl clir a chynhesa fy nghalon. Gwna fi’n sicr o’th ddibenion cariadus imi, a llefara â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Deuteronomium 8

Un o’r emynau mawr Cymraeg sydd wedi bwydo eneidiau Cristnogion ar hyd y blynyddoedd yw ‘Arglwydd, arwain drwy’r anialwch’. Mae’n cymryd delwedd Duw yn arwain y crediniwr trwy’r anialwch:

‘Arglwydd arwain drwy’r anialwch,

Fi, bererin gwael ei wedd,

Nad oes ynof nerth na bywyd,

Fel yn gorwedd yn y bedd.’  

Mae’r llinellau hyn yn crynhoi’r bennod hon. Mae Moses yn atgoffa’r bobl o bopeth mae Duw wedi’i wneud drostynt. Cynlluniwyd eu blynyddoedd o grwydro’r anialwch i ddangos iddynt eu dibyniaeth lwyr arno Ef (adnod 3): ‘Roedd e eisiau i chi ddeall mai nid bwyd ydy’r unig beth mae pobl ei angen i fyw, ond popeth mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud’. Mae Iesu’n dyfynnu ei eiriau yn Mathew 4.4 pan mae’r Diafol yn ei demtio.

Mae Moses yn pwysleisio’r neges drwy ddweud, ‘Gwnewch yn siŵr na fyddwch chi'n anghofio'r ARGLWYDD’ (adnod 11). Pan gyrhaeddant Wlad yr Addewid, bydd bywyd yn llawer haws. Ond roedd eu caledi i gyd i fod i ddysgu dibyniaeth ar Dduw, a rhaid iddynt beidio dychmygu nad ydynt ei angen oherwydd bod y caledi ar ben: 'gwyliwch rhag i chi droi’n rhy hunanfodlon, ac anghofio’r ARGLWYDD eich Duw, wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, lle roeddech chi’n gaethweision’(adnod 14).

Mae Duw yn ein harwain trwy’r anialwch, ac rydym yn dibynnu arno i’n hachub pan fydd amserodd yn anodd. Ond rydym hefyd i ddibynnu arno pan mae pethau yn haws: nid oes llai o angen amdano, hyd yn oed os ydym yn meddwl hynny.

Gweddi

Gweddi

Duw, diolch i ti am fy arwain drwy’r anialwch a fy mwydo â bara’r nefoedd. Helpa fi i fyth anghofio dy drugareddau ataf i.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible