Skip to main content

Carodd Duw y byd gymaint: Ioan 3.14–17 (12 Rhagfyr 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Ioan 3.14–17

Mae Ioan 3.16 yn enwog: ‘Ydy, mae Duw wedi caru'r byd cymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bwy bynnag sy'n credu ynddo beidio mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol’.

Ond efallai nad yw’r gair ‘credu’ mor syml â’r gair ‘edrych’. Mae adnod 14 yn cyfeirio at neidr efydd Moses. Mae’r stori honno yn Numeri 21.9, yn ystod crwydro’r Israeliaid yn yr anialwch. Fe’u brathwyd gan nadroedd, ond dywedodd Duw wrth Moses am wneud neidr efydd; pe byddent yn edrych ar neidr pan gawsant eu brathu, byddent yn cael eu hiacháu.

Yn Eseia 45.22 mae ‘edrych’ arall: yn y BCND dywed, ‘Chwi, holl gyrrau'r ddaear, edrychwch ataf i'ch gwaredu, canys myfi wyf Dduw, ac nid oes arall’. Dyma’r adnod clywodd CH Spurgeon yn cael ei ddarllen pan, yn unig ac yn ddigalon, aeth i mewn capel bach ar ddiwrnod o eira ym mis Ionawr 1850. Nid oedd gan y pregethwr ‘lawer i’w ddweud, diolch i Dduw, am i hynny ei orfodi i ddal i ailadrodd y testun’, meddai’n ddiweddarach. Dywedodd y pregethwr, ‘Waeth pa mor wan neu dlawd gall dyn fod, gall edrych. Ac os yw’n edrych, yr addewid yw y bydd yn byw’. Ac fel cofiodd Spurgeon, ‘O, gallwn fod wedi edrych nes y gallwn bron ag edrych fy llygaid i ffwrdd. Yn y fan a’r lle diflannodd y cwmwl, roedd y tywyllwch wedi treiglo i ffwrdd, a’r adeg honno gwelais yr haul’.

Gall ‘credu’ fod ychydig yn gymhleth; gallai gynnwys dadleuon. Mae edrych yn hawdd; mae Duw eisiau iddo fod yn hawdd i ni ddod ato.

Gweddi

Gweddi

Duw, diolch nad wyt wedi rhoi rhwystrau yn ein ffordd atat ti; bod dy freichiau ar agor i’n croesawu, a’r cyfan sy’n rhaid i ni ei wneud yw edrych.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible