Skip to main content

Caethweision ar gefn ceffylau: Pregethwr 10.1-7 (Ebrill 22, 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Pregethwr 10

Ni fyddai'r bennod hon o Pregethwr allan o'i lle yn Diarhebion, enghraifft arall o lenyddiaeth 'Doethineb'. Mae'n llawn cyngor doeth, braidd yn ysmala, wedi'i seilio ar arsylwi craff ar y natur ddynol. Un o'i themâu yw'r angen am lywodraethu doeth gan bobl sy'n addas o ran natur a hyfforddiant ar gyfer y dasg. Mae'r Pregethwr yn ddeifiol am lywodraethwyr sy'n rhoi swyddi awdurdod i 'ffyliaid’, ac yn cyferbynnu'r ‘caethweision ar gefn ceffylau a thywysogion yn cerdded ar droed fel gweision' (adnodau 6–7). Mae'n dychwelyd i'r pwnc hwn yn adnodau 17-18.

Yn ein hoes ddemocrataidd rydym yn dewis ein llywodraethwyr ein hunain, felly mae gennym lai o reswm i gwyno pan nad ydynt yn addas i’r swydd. Mae'r geiriau hyn yn cael eu hysgrifennu wrth i argyfwng coronafirws fynd rhagddo, gyda'r anogaeth i weithio gartref, hunan-ynysu a chyfyngiadau ar gymdeithasu. Mae costau personol ac economaidd yr hyn sy'n digwydd yn anodd eu hamgyffred. Mae'n hanfodol bod y rhai sy'n ein llywodraethu yn ddoeth, yn gryf ac yn dosturiol. Ac os nad ydynt yn bobl y byddem ni fel arfer yn pleidleisio drostynt neu y byddem ni eisiau eu gweld mewn grym, mae’n fwy o reswm i ni weddïo drostynt a gofyn i Dduw eu bendithio a'u harfogi i wneud yr hyn maen nhw wedi eu galw i’w wneud.

Gweddi

Gweddi

Duw, diolch am bobl sy'n barod i ysgwyddo beichiau arweinyddiaeth mewn amseroedd caled. Bendithia nhw a'u paratoi ar gyfer y tasgau a roddwyd iddynt, a gad iddynt weithredu gyda doethineb a gras.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible