Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.
Arglwydd, trugarha. Glanha fi. Llonydda fy meddwl. Helpa fi i wrando wrth i ti siarad.
Yn oes Iesu, ymatebodd gwahanol grwpiau o bobl i feddiannaeth Rufeinig mewn gwahanol ffyrdd. Ceisiodd clerigwyr y dosbarth uchaf, y Sadwceaid, dyhuddiad ac fe giliodd yr Eseniaid at fywyd mynachaidd, tra bo’r Selotiaid yn cynllwynio gwrthryfel gwleidyddol.
Gwelsom Iesu’n gwrthdaro â rhai Sadwceaid yn y darlleniad ddoe. Efallai fod yr Eseniaid wedi dylanwadu ar ddysgeidiaeth ei ragflaenydd, Ioan Fedyddiwr. Roedd o leiaf un cyn-Selot ymhlith ei ddisgyblion. Ond grŵp gwahanol oedd y rhai roedd Iesu’n eu gwrthwynebu: y Phariseaid.
Cyn inni fod yn rhy lym gyda nhw, mae’n werth nodi bod etifeddiaeth y Phariseaid wedi helpu Iddewiaeth i oroesi dinistr cythryblus Jerwsalem yn 70 OC a gwasgariad yr Iddewon a ddilynodd ar draws y cenhedloedd. Mae ein cofnodion hanesyddol yn portreadu’r Phariseaid fel rhai oedd yn ystyried y Torah yn difrifol iawn. Felly pam mae’r Iesu’n dal i’w galw nhw’n rhagrithwyr?
Yr hyn yr ymddengys ei fod yn ceisio ei amlygu oedd perffeithiaeth a oedd, yn hytrach na’u gwneud yn ymwybodol o’u diffygion, yn eu gwneud yn ffroenuchel ac yn angharedig. Gwrthodasant y tryloywder, gostyngeiddrwydd a chynwysoldeb sydd wrth wraidd mudiad Iesu. Y cwestiwn i ni yw, pwy fyddai’n teimlo mwyaf cartrefol yn ein heglwysi: y Phariseaid neu’r Nasaread a’i griw o gasglwyr trethi a phechaduriaid?
Arglwydd, rho imi’r dewrder i gyfaddef fy mhechod a chroesawu pechaduriaid fel y gwnaethost ti.
Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Michael Pfundner, Rheolwr Cefnogi Cyhoeddi Cymdeithas y Beibl