Skip to main content

Byddwch yn ddiolchgar am bob blwyddyn: Pregethwr 11.1–8 (Ebrill 23, 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Pregethwr 11

Mae'r adran hon o bennod 11 yn grŵp arall o ddiarhebion, sy'n canolbwyntio ar fyw'n dda tra bo’r cyfle gennym. Cyfieithir adnod 1 ‘Bwrw dy fara ar wyneb y dyfroedd' mewn cyfieithiadau hŷn; mae BNET yn dehongli hyn  fel ‘Bydd yn hael a rhannu dy gynnyrch’. Thema gyffredinol yr adnodau hyn, yr angen i fod yn weithgar ac yn fentrus yn ein ffordd o fyw. ‘Fydd ffermwr sy'n disgwyl tywydd perffaith byth yn hau, a'r un sy'n gwylio pob cwmwl byth yn medi cynhaeaf’,' meddai'r Pregethwr (adnod 4). Fe ddylen ni wneud yr hyn a allwn pan allwn, fel arall byddwn yn gwastraffu rhodd bywyd a roddwyd inni (adnod 8).

Mae hwn yn alwad i weithredu y mae angen i gredinwyr heddiw ei glywed. Mae'n hawdd iawn, yn ein bywydau personol ac yn ein cymunedau eglwysig, symud ymlaen heb brofi ein hunain mewn gwirionedd na mynd ati i chwilio am ffyrdd i fyw allan bywyd o ddisgyblaeth. Dywed Hebreaid 10.24, ‘A gadewch i ni feddwl am ffyrdd i annog ein gilydd i ddangos cariad a gwneud daioni' - mae'n well gan gyfieithiadau hŷn ‘A chydystyriwn bawb ein gilydd, i ymannog i gariad a gweithredoedd da'. Nid ydym i fod i fod yn segur. Fel y dywed y Pregethwr, Os ydy rhywun yn cael oes hir, dylai fwynhau'r blynyddoedd i gyd, ond rhaid cofio fod dyddiau tywyll marwolaeth yn hirach’ (adnod 8).

Gweddi

Gweddi

Duw, diolch am rodd bywyd rwyt wedi'i roi i mi. Helpa fi i werthfawrogi bob dydd, a'i ddefnyddio mewn ffordd sy'n dy anrhydeddu di.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible