Skip to main content

Bwriadedig i’r Arglwydd: 1 Corinthiaid 6.12–20 (Chwefror 19, 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol:1 Corinthiaid 6.12–20

Roedd Paul yn ysgrifennu ar adeg pan nad oedd y syniad bod cyrff pobl yn gysegredig mewn unrhyw ffordd yn atyniadol. Roedd caethwasiaeth yn normal. Roedd archwaeth gorfforol pobl yno i gael eu bodloni – ‘fel bwyd i'r stumog a'r stumog i fwyd', (adnod 13); nid oedd yn wahanol gyda rhyw. Yn y diwylliant Groegaidd a Rhufeinig a oedd yn llywodraethu’r byd hynafol, roedd hyn yn golygu bod merched yn eilradd: nid eu cyrff eu hunain oeddent.

Mae Paul, yn unol â syniadaeth Iddewig, yn herio hyn: mae ein cyrff yn perthyn i Dduw. Nid ydym yn cael ein creu at ddefnydd pobl eraill, ond i'w ogoneddu. Ni ddylem chwaith dybio bod unrhyw beth yr ydym am ei wneud yn iawn neu'n ganiataol, dim ond oherwydd ein bod am ei wneud: rydym yn gwybod y gwahaniaeth rhwng da a drwg, a gelwir arnom i ddewis beth sy'n dda.

Heddiw, mae llawer o bobl yn meddwl am ryw fel rhywbeth corfforol yn unig. Mae Cristnogion eisiau herio hynny, yn union fel rydym wedi arfer gwneud. Ond mae gan yr hyn mae Paul yn ei ddweud oblygiadau llawer ehangach na hyn. Mae yna ddiwydiant hysbysebu pwerus sy'n apelio at ein greddf am bleser trwy ddefnydd, statws a chysur. Nid oes unrhyw beth o'i le ar unrhyw un o'r rhain ynddynt eu hunain. Ond dywed Paul ein bod ni'n atebol i Dduw am yr hyn rydym yn ei wneud gyda'n cyrff. Mae hynny'n golygu gyda beth rydym yn eu maethu, sut rydym yn eu dilladu, a sut rydym yn gofalu amdanynt. Yn ein cymdeithas brynwriaethol Gorllewinol, gallwn yn hawdd cael ein temtio i anghofio ein dyletswydd i Dduw.

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi i beidio â chydymffurfio â meddwl y byd hwn. Helpa fi i gofio fy mod i'n perthyn i ti.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible