Skip to main content

Gobaith

Author: Bible Society, 25 January 2017

“Gobeithio bod ‘na ddigon o fwyd”. “Gobeithio bydd ‘na docynnau ar gael”. “Gobeithio bydd y swydd newydd yn ddiddorol”.  Dyma’r math o bethau rydyn ni’n meddwl amdanyn nhw, fel arfer, pan rydyn ni’n meddwl am obaith.

Wrth ystyried be’ mae’r Beibl yn ei ddweud am obaith, rydyn ni’n gweld darlun gwahanol: peth sicr, pendant ydy gobaith yn y Beibl; rhywbeth sy’n rhoi hyder i ni pob dydd.

Mae'n gobaith ni yn yr ARGLWYDD! Fe sy'n ein helpu ni, ac yn darian i'n hamddiffyn. Salm 33.20

Mae rhai geiriau Hebraeg yn cael eu defnyddio yn yr Hen Destament i egluro beth ydy gobaith. Disgwyliad; hyder; aros yn amyneddgar: mae pob un yn dangos rhyw wedd ar obaith fel mae o yn y Beibl, sef gobaith yn Nuw sy’n dod i achub ei bobl. 

Dŷn ni'n gwybod y byddwn ni ddim yn cael ein siomi yn y gobaith yna, am fod Duw eisoes wedi tywallt ei gariad yn ein calonnau trwy roi'r Ysbryd Glân i ni! Rhuf 5.5

Mae Paul yn sgwennu am Dduw, ffynhonnell gobaith (Rhuf 15.13). Mae gynnon ni obaith oherwydd popeth mae Crist wedi ei wneud trosom ni, ac oherwydd cynlluniau tragwyddol Duw. Mae ei addewidion yn ddibynadwy: felly mae gynnon ni obaith.

Be’ fyddwch chi’n wneud yr wythnos yma yn ymateb? Beth am:

  • Egluro wrth rywun beth ydy eich gobaith yng Nghrist (“byddwch yn barod bob amser i roi ateb i bwy bynnag sy’n gofyn i chi esbonio beth ydy’r gobaith sydd gynnoch chi” 1 Pedr 3.15)
  • Edrych trwy’r Beibl am y gair ‘gobaith’ (gan ddefnyddio mynegair): be’ dych chi’n ei ddysgu am Dduw?

Gallwch ddarllen mwy o flog Byw y Beibl yma


Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible