Author: Bible Society, 13 April 2017
Ffyddlondeb ydi ffrwyth nesaf yn ein cyfres ‘Ffrwythau’r Ysbryd Glân’. πίστις ydi’r gair Groegaidd y tro yma.
Mae llawer o enghreifftiau o ffyddlondeb yn yr Hen Destament. Mae ysgrifennwr y llythyr at yr Hebreaid yn cyfeirio at rai enghreifftiau ym mhennod 11:
Ffydd Noa wnaeth iddo wrando'n ofalus ar Dduw ac adeiladu llong fawr i achub ei deulu. (Heb 11:7)
Ffydd Abraham wnaeth iddo wrando ar Dduw. Roedd Duw yn ei alw i adael ei gartref a mynd i wlad y byddai'n ei derbyn yn etifeddiaeth yn nes ymlaen. (Heb 11:8)
Ffydd wnaeth alluogi Sara i fod yn fam hefyd. (Heb 11:11).
Yn y Testament Newydd, rydym hefyd yn gweld llawer o bobl oedd yn gweithredu eu ffyddlondeb:
Mae ‘na lawer mwy hefyd! Mi wnaethon nhw ddod at Iesu efo’r math o ffydd sydd yn disgwyl iddo fo weithredu yn eu bywydau.
Ym mhob un o’i lythyrau mae Paul yn ysgrifennu am bwysigrwydd ffyddlondeb sydd yn disgwyl i Dduw weithredu:
Trwy ras yr ydych wedi eich achub, trwy ffydd. Nid eich gwaith chwi yw hyn; rhodd Duw ydyw. (Eff 2:8, BCN).
Ddarllen:
Chwiliwch am enghreifftiau yn y Testament Newydd lle mae pobl yn disgwyl i Iesu wneud rhywbeth. Be’ dach chi’n dysgu am Iesu?
Ystyried:
Oes ‘na rywbeth yn eich bywyd rydych chi angen Dduw i wneud? Gweddïwch am ei help ac arhoswch i weld be’ fydd o’n ei wneud.
Rhannwch eich storiâu ar dudalen Facebook Beibl Byw.
Gallwch ddarllen mwy o flog Byw y Beibl yma
Christine Daniel
Mae Byw y Beibl yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas y Beibl, Y Cyngor Ysgolion Sul a Gobaith i Gymru
Share this: