Skip to main content

Ffordd o fyw

Author: Bible Society, 4 May 2017

Beth mae’r Beibl yn ei ddweud am ein ffordd o fyw?

Mae’r Beibl yn dweud lot fawr wrthon ni am y ffordd mae Duw eisiau i ni fyw.  Mae yna ganllawiau ynglŷn â’r ffordd orau i fyw a’r gwerthoedd y dylen ni eu harddel.  Mae yna rybuddion ynddo hefyd ynglŷn â’r pethau hynny sy’n ddinistriol, a’r temtasiynau hynny sy’n denu pob un ohonon ni, yn ein tro, i weithredu’n groes i’r hyn mae Duw eisiau: 

Mae canlyniadau gwrando ar y natur bechadurus yn gwbl amlwg: anfoesoldeb rhywiol, meddyliau mochaidd a phenrhyddid llwyr; hefyd addoli eilun-dduwiau a dewiniaeth; a phethau fel casineb, ffraeo, cenfigen, gwylltio, uchelgais hunanol, rhaniadau, carfanau gwahanol, eiddigeddu, meddwi, partïon gwyllt, a phechodau tebyg” (Galatiaid 5.19-21)

Ond nid jest canllawiau ar bapur sydd gynnon ni – mae’r Beibl hefyd yn llawn hanesion sy’n dysgu gwersi pwysig i ni am fywyd.  Daeth Iesu i’n galw ni ato’i hun, a dangos i ni y ffordd i fywyd sydd yn “fywyd ar ei orau” (Ioan 10.10).  Ac mae’n cynnig yr Ysbryd Glân i ni i’n galluogi i fyw’r bywyd hwnnw – bywyd fel y bwriadodd Duw i fywyd gael ei fyw! 

“Dyma’r ffrwyth mae’r Ysbryd Glân yn ei dyfu yn ein bywydau ni: cariad, llawenydd, heddwch dwfn, amynedd, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder a hunanreolaeth” (Galatiaid 5.22-23).  

Mae’r proffwyd Micha yn dweud fel hyn:

“Mae’r Arglwydd wedi dweud beth sy’n dda, a beth mae e eisiau gen ti: Hybu cyfiawnder, bod yn hael bob amser, a byw’n wylaidd ac ufudd i dy Dduw” (Micha 6.8).

Mae’r Hen Destament a’r Newydd yn pwysleisio y dylen ni fyw mewn ffordd sy’n dangos gofal am y tlawd, ac yn ein rhybuddio rhag meddwl mai cyfoeth ac eiddo materol sy’n mynd i roi bywyd da i ni:

“Allwch chi ddim bod yn was i Dduw ac i arian ar yr un pryd,” meddai Iesu (Mathew 6.24).

Ydy, mae Duw am i ni “stopio ymddwyn yr un fath â phobl sydd ddim yn credu.”

“Gadewch i Dduw newid eich bywyd chi’n llwyr drwy chwyldroi eich ffordd o feddwl am bethau.  Byddwch chi’n gwybod wedyn beth mae Duw eisiau, ac yn gweld fod hynny’n dda ac yn ei blesio fe, ac mai dyna’r peth iawn i’w wneud.” (Rhufeiniaid 12.2)

Gallwch ddarllen mwy o flog Byw y Beibl yma


Arfon Jones
Mae Byw y Beibl  yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas y Beibl, Y Cyngor Ysgolion Sul a Gobaith i Gymru


Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible