Skip to main content

Bod yn hael

Author: Bible Society, 18 January 2017

Mae’r Beibl yn dangos i ni lun o Dduw sy’n ‘llawn haelioni a gwirionedd’ (Ioan 1.14 beibl.net).

Gwelwch Genesis 1.28-29:

A dyma Dduw yn eu bendithio nhw, a dweud wrthyn nhw, ‘Dw i eisiau i chi gael plant, fel bod mwy a mwy ohonoch chi. Llanwch y ddaear a defnyddiwch ei photensial hi ... Dw i wedi rhoi'r planhigion sydd â hadau a'r ffrwythau ar y coed i gyd, i fod yn fwyd i chi’.

Gwnaeth o roi popeth i ni. Ond er gwaethaf ei haelioni, wnaethon ni droi cefn arno fo. Ond dydy Duw ddim wedi troi cefn arnon ni. Rydyn ni’n gweld trwy’r Beibl lawer o enghreifftiau o haelioni Duw.

Yr enghraifft pennaf o’i haelioni ydy rhoi ei Fab, Iesu Grist, Arglwydd ac iachawdwr:

Ydy, mae Duw wedi caru'r byd cymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bwy bynnag sy'n credu ynddo beidio mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol. (Ioan 3.16).

Mae wedi tywallt pob bendith ysbrydol sy yn y byd nefol arnon ni sy'n perthyn i'r Meseia…Clod i Dduw am yr haelioni anhygoel mae wedi'i ddangos tuag aton ni! - ei anrheg i ni yn y Mab mae'n ei garu…(gwelwch Eff 1.3-10).

Beth ydy’n hymateb ni i haelioni Duw?

Darllenwch 2 Corinthiaid 8.1-15 (yn arbennig adn. 7 a 9) a 1 Timotheus 6.17-19.

Sut allwch chi fod yn hael yr wythnos yma? Beth am:

  • Ffonio neu dreulio amser efo rhywun sy’n unig?
  • Rhoi anrheg hael i rywun sydd mewn angen?
  • Gwenu ar rywun dych chi ddim yn eu nabod nhw?
  • Dweud wrth rywun am y rhodd hael wnaethoch chi ei dderbyn gan Dduw?

Beth arall? Rhannwch eich syniadau ar dudalen Facebook Beibl Byw.

Gallwch ddarllen mwy o flog Byw y Beibl yma


Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible