• You may also be interested in...

    What we do in England and Wales - With the Church

    People at Church.We are working to provide new ways to help people engage with the Bible in today's culture.

    Find out more

Canolfan Treftadaeth Ffydd Llanycil

Building an internationally-recognised faith heritage centreView this page in English

Adeiladu canolfan treftadaeth ffydd a gydnabyddir yn rhyngwladol

Dewch i Ganolfan Treftadaeth Ffydd Llanycil a darganfyddwch drysor cudd.

Lleolir y ganolfan ger y Bala, ar safle sydd wedi ei ddefnyddio ar gyfer addoliad Cristnogol ers dros 1,500 o flynyddoedd.

Mae i’r safle dreftadaeth ddiwylliannol, grefyddol a Beiblaidd gyfoethog, treftadaeth ffydd oedd  â rhan yn ffurfio hunaniaeth, cymeriad a gwerthoedd y Gymru fodern.

Bwriad Cymdeithas y Beibl wrth addasu Eglwys Beuno Sant, adeilad sydd wedi’i gofrestru’n adeilad gradd 2, yw datblygu canolfan treftadaeth o safon fydd yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol.

Bydd Canolfan Treftadaeth Ffydd Llanycil yn darparu:

  • Lleoliad parhaol i ddathlu treftadaeth ysbrydol a diwylliannol  Cymru
  • Cyfle i ddathlu pwysigrwydd y Bala, a gwaith Thomas Charles, oedd a rhan gwbl allweddol yn sefydlu Cymdeithas y Beibl dros 200 mlynedd yn ôl
  • canolfan addysgol i ddatblygu adnoddau dysgu newydd i ysbrydoli ymwelwyr heddiw
  • canolfan lle y gall  Cymdeithas y Beibl ddychwelyd i’w gwreiddiau, parhau i ehangu’i gwaith yma yng Nghymru, a dathlu gwaith yr elusen ledled y byd
  • cyfrannu i adfywiad economaidd yr ardal trwy greu swyddi a thwristiaeth

Am fwy o wybodaeth e-bostiwch contactus@biblesociety.org.uk neu galwch 01793 418222.

Cymerwch gipolwg ar

beth fydd ar gynnig yn y Ganolfan Dreftadaeth Ffydd newydd yn Llanycil.
ar y weledigaeth sydd gennym wrth i ni geisio creu canolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol. Cymerwch gipolwg ar yr adeilad heddiw a darganfyddwch y rhan allweddol fu gan yr ardal yn nhreftadaeth Cymru.

Bydd y DVD hwn yn mynd a chi ar daith yn ôl trwy amser, yn eich cludo i’r dyfodol a’ch swyno â  hanes Llanycil.