You may also be interested in...
Support us - Donate now
Help fight Bible poverty.Your gift will help us bring the Bible's life-changing message to people all over the world and here at home.
Cymru
Gwaith Cymdeithas y Beibl yng Nghymru
Y mae arwyddocâd unigryw i Gymru yn hanes Cymdeithas y Beibl.
Wedi’r cyfan, yma yng Nghymru y tarddodd yr hanes a ysbrydolodd sefydlu Cymdeithas y Beibl am y tro cyntaf.
A heb gyfraniad merch ifanc 15 oed o’r enw Mary Jones, efallai na fyddai Cymdeithas y Beibl yn bodoli o gwbl.
Ac mae Cymdeithas y Beibl yn parhau i chwarae rôl allweddol yng Nghymru heddiw.
Hanes Mary Jones
Roedd gan Mary awydd brwd i brynu ei chopi ei hun o’r Beibl. Cynilodd ei harian prin am chwe blynedd, a cherdded y 25 milltir rhwng Llanfihangel-y-pennant a’r Bala i brynu Beibl oddi wrth Thomas Charles, y pregethwr adnabyddus, a’r unig ŵr yn y dre oedd â Beiblau i’w gwerthu.
Gwnaeth ei hanes y fath argraff ar Thomas Charles fel y bu iddo ystyried sut y gellid cynorthwyo eraill ar draws y byd oedd yn dyheu am Feibl yn eu mamiaith. Bedair blynedd yn ddiweddarach, ym 1804, rhoddodd Charles gynnig o flaen Cyngor Cymdeithas y Tractiau Crefyddol yn Llundain i sefydlu cymdeithas i gyflenwi Cymru a’r byd gyda Beiblau. O ganlyniad, sefydlwyd Cymdeithas y Beibl.
Ei gwaith heddiw
Mae Cymdeithas y Beibl yn parhau i weithio heddiw i rannu neges y Beibl -neges sy’n parhau i draws newid bywydau- ledled Cymru.
Mae’r sialens sy’n ein hwynebu heddiw yn wahanol iawn i’r sialensiau oedd yn nyddiau Mary Jones. Maent yn cynnwys:
- Mynd i’r afael â’r newidiadau mewn mynychu eglwys a darllen y Beibl drwy’r wlad
- Ceisio cyfathrebu neges y Beibl mewn cenedl ddatganoledig trwy weithio gyda’r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghymru
Llwyddiannau allweddol
Mae lansiad Grŵp Ymgynghorol Cymru yn un o lwyddiannau allweddol Cymdeithas y Beibl yng Nghymru.
Gweithia’r grŵp rhyng-enwadol i helpu’r eglwysi i ymateb i’r sialensiau sy’n eu hwynebu.
Cydweithia â Chymdeithas y Beibl i gynorthwyo pobl i weld fod neges y Beibl yn berthnasol i fywyd heddiw.
Ceir dwy enghraifft arall o brosiectau llwyddiannus yng Nghymru:
- Y gwaith cyffroes o gyfieithu a darparu fersiynau newydd o'r Beibl Cymraeg i siaradwyr o amgylch y byd
- Datblygu Canolfan Treftadaeth Ffydd Llanycil i fod yn ganolfan treftadaeth ffydd a gaiff ei gydnabod yn rhyngwladol.
